Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Waith Ieuenctid | Inquiry into Youth Work

 

YW 20

Ymateb gan : Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Response from : Presbyterian Church Of Wales

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 - Beth yw eich barn ar allu pobl ifanc i gael mynediad i wasanaethau gwaith ieuenctid, gan gynnwys, er enghraifft:

- lefelau’r ddarpariaeth ledled Cymru ac unrhyw amrywiadau rhanbarthol;

- materion yn ymwneud â mynediad ar gyfer grwpiau penodol o ifanc pobl, er enghraifft, iaith, anabledd, natur wledig, ethnigrwydd?

 

N/A

 

Os ydych yn credu bod problemau penodol, sut y gellid eu datrys?

 

 

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, pa mor effeithiol yw polisi a strategaeth gwaith ieuenctid Llywodraeth Cymru?

Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried:

- polisi a strategaeth gwaith ieuenctid penodol Llywodraeth Cymru, fel ‘y cynnig o ran Gwaith ieuenctid’; Siarter Gwaith Ieuenctid Cymru; Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014 i 2018;

- cyfrifoldebau adrannau Llywodraeth Cymru ac a oes dull cydlynol ar draws adrannau i gefnogi’r broses o ddarparu gwaith ieuenctid.

 

Gan nad ydyn ni’n gwneud gwaith ieuenctid statudol nid oes barn gennym ar y Strategaeth.

 

Yn eich barn chi, beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol/yn well o ran ei gwaith ieuenctid?

 

 

Cwestiwn 3- Beth yw eich barn ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys cyllid a geir drwy law awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd, a’r trydydd sector.

 

Nid oes barn gennym am nad ydym yn derbyn cyllid o’r fath.

 

Os ydych o’r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

 

 

Cwestiwn 4 – Yn eich barn chi, a oes unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’r ymchwiliad y dylid tynnu sylw’r Pwyllgor atynt?

(Er enghraifft: materion gweithlu; y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru; adeiladau a seilwaith; gwaith ieuenctid mewn ysgolion; materion trafnidiaeth; mynediad i dechnoleg ddigidol; ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i gofrestru ac arolygu rhai lleoliadau addysg y tu allan i’r ysgol.)

 

 

Rydym am atgoffa’r Pwyllgor ein bod wedi anfon ymateb cynhwysfawr i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni ar y syniad i gofrestru ac arolygu lleoliadau addysg tu fas i’r ysgol, fel enwad ac hefyd drwy Cytun.

Carem atgoffa’r Pwyllgor ein bod eisoes yn gweithio o fewn y drefn a osodir ar gyfer elusennau o ran diogelwch, a’n bod yn cydweithio a chyfrannu at y Panel Diogelwch Cydenwadol ar y cyd gydag Undeb yr Annibynwyr ac Undeb Bedyddwyr Cymru.

 

 

 

Cwestiwn 5 - Pe byddai’n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o blith yr holl bwyntiau a nodwyd gennych, pa argymhelliad fyddai hwnnw?

 

Rydym am ofyn pam fod llywodraeth Cymru am i’r sector gwirfoddol gydweithio’n agosach gyda’r sector statudol gan taw i’r sector statudol y gwnaethpwyd toriadau.